Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni gyd wynebu ein cyfnod clo cyntaf. Doedd neb yn gwybod beth oedd o’n blaenau. Wythnos cyn y newyddion swyddogol bu’n rhaid i ni gymryd penderfyniad anodd iawn a gohirio pob sesiwn. Doeddwn i ddim yn gwybod pa bryd y byddem...
Rhoddwyd her i griw talentog Harlech i gofnodi eu profiadau o’r cyfnod clo cyntaf. Cafwyd ymateb ffantastig gyda’r criw yn cyfrannu ar lafar, ffotograffau, a sgyrsiau di-ri ar y ffon! Buan daeth syniadau a profiadau y criw yn fyw ac ar gân dan arweiniad Sera....
Mae grŵp cerddorol sydd wedi bod yn achubiaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn y cyfnod clo wedi lansio fideo newydd gyda chymorth sêr o fyd cerddoriaeth. Yn perfformio gydag aelodau, tiwtoriaid a gwirfoddolwyr oedd yn ymwneud â phrosiect Canfod y Gân oedd...
Un o brif amcanion prosiect Canfod y Gân ydy ymgysylltu â’r gymuned a sicrhau cyfleoedd i oedolion gymryd rhan gyda’i gilydd, yn gyfartal drwy gerddoriaeth. Felly, roeddem yn ymfalchïo yn yr ymateb a gafwyd i’n gwahoddiadau i gymryd rhan yn ein cyngerdd gymunedol...
Cawsom brynhawn bendigedig yn neuadd Ysgol Ardudwy, ar Dachwedd 9fed, 2019. Paratowyd te prynhawn anhygoel gan ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 yr ysgol. Braf oedd gweld cymaint o gynulleidfa o’r dref. Cafwyd perfformiadau gan unigolion y grwp, yn amrywio o ganeuon Bryn...
Roedd hi’n fraint cael ein gwahodd i berfformio ym mhabell y dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ym mis Awst 2019. Cynnigwyd y cyfle i grwpiau Caernarfon a Phwllheli gymryd rhan. Roedd y babell dan i sang a phawb ar dân i’n perfformiad cyntaf un! Cafwyd ambell...
Trefnwyd bore o hwyl i gymunedau cerdd Canolfan gerdd William Mathias, eu teuluoedd, eu ffrindiau, a’r gymuned ehangach. Gwahoddwyd teuluoedd sy’n mynychu sesiynau Camau Cerdd a Chamau Nesaf i blant; aelodau’r côr hamdden; aelodau’r gerddorfa gymunedol; trigolion...
Mae cwcis yn helpu ni ddeall sut mae ein gwefan yn cael ei ddefnyddio gan ymwelwyr, ac yn angenrheidiol er mwyn i rai rhannau o’n gwefan weithio’n gywir.