Gwirfoddoli
Dewch i wirfoddoli!
Rydym angen gwirfoddolwyr brwdfrydig i gefnogi prosiect fydd yn trawsnewid bywydau drwy gerddoriaeth.
Fedrwch chi helpu eraill i gyrraedd eu gwir botensial drwy gerddoriaeth?
Fedrwch chi gefnogi ac annog eraill mewn grŵp integredig fydd yn cydweithio ag eraill a cherddorion arbenigol?
Ydych chi’n mwynhau cymdeithasu gydag eraill drwy gerddoriaeth?
Drwy wirfoddoli gyda’r prosiect cewch gyfle i:
- Ddatblygu a meithrin perthnasoedd positif.
- Creu partneriaethau positif yn y gymuned.
- Cefnogi eraill i gyrraedd eu potensial a gwella llesiant.
- Gwella eich cyflogadwyedd drwy dderbyn profiadau buddiol a hyfforddiant defnyddiol.
Gellir gwirfoddoli mewn nifer o ffyrdd:
- Cefnogi ac annog aelodau’r grŵp i berfformio, creu, a byrfyfyrio.
- Paratoi lluniaeth ar gyfer cyfnod cymdeithasu’r grŵp
- Cynorthwyo hefo marchnata, hyrwyddo’r prosiect, drefnu neu ddigwyddiadau arbennig neu gyngherddau.
- Cynorthwyo yn ystod cyngherddau/wyliau arbennig bydd y grŵp yn cymryd rhan ynddynt.
Fedrwch chi ein helpu ni? Fedrwch chi wneud gwahaniaeth?
Am rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gyda phrosiect Canfod y Gân lawrlwythwch ein Llawlyfr Gwirfoddolwyr.